Betws-yn-Rhos &
Llanelian-yn-Rhos
Cyngor Cymuned
Community Council
Ar 14 Mai 2026, cymeradwyodd Cyngor Llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy symud ymlaen i ymgynghoriad cyhoeddus ar y posibilrwydd o gyflwyno Ardoll Ymwelwyr ar draws y sir. Agorwyd yr ymgynghoriad yn ffurfiol ar 20 Mai 2026.
Gofynnir i ymatebion gael eu cyflwyno erbyn 17 Gorffennaf 2026 fan bellaf.
Gellir cael mynediad at yr ymgynghoriad ar-lein drwy wefan y Cyngor: Ymgynghoriad arfaethedig ar y dreth ymwelwyr yn Sir Conwy - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Bydd copïau papur o’r ymgynghoriad hefyd ar gael i’w casglu a’u dychwelyd mewn Canolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid, llyfrgelloedd Conwy, Canolfan Fusnes Conwy a Swyddfeydd y Cyngor yng Nghoed Pella.
Bydd cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu wyneb yn wyneb hefyd yn cael eu trefnu, a bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu maes o law unwaith y bydd y trefniadau wedi’u cadarnhau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr ymgynghoriad, cysylltwch â: tourism@conwy.gov.uk
Cacynen felyngoes (a elwir hefyd yn gacynen Asia) Vespa velutina
(cliciwch ar y postar am fwy o fanylion)
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus ar hyd a lled Gogledd Cymru drost y flwyddyn i ddod ac erfynnaf arnoch fel cymunedau i gymeryd y cyfle i gyfarthrebu gyda swyddogion ac Aelodau Bwrdd Betsi gyda'ch pryderon.
Mae cyfarfodydd pellach i gael eu cynnal ac gellwch cael manylion pellach gan holi gwefan Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
(cliciwch ar y delwedd i weld y dogfen)
Bydd y Cyngor lleol felly yn darparu Canolfan Glyd yn y Pafiliwn Chwaraeon yn Betws yn Rhos
o 9:00 y bore hyd 12:00.
bob Dydd Mawrth.
Croeso i bawb ddod yma am baned a sgwrs.
Mae Cyngor Cymuned Betws yn Rhos a Llanelian yn Rhos yn cysidro darparu Llwybyr Natur yn y fro i ddenu ac ail gynau diddordeb ym mywyd natur cefn gwlad Cymru.
Mae project ar y gweill ar ran Senedd Cymru gan Lleoedd LLeol ar gyfer Natur i chwalu rhwystrau sy’n eithrio cymunedau difreintiedug rhag ymwneud a byd natur. Mae amryw o lwybrau cyhoeddus a hen ffyrdd fel ‘Ffordd y Porthmyn’ a’r hen Ffordd Rufeinig yn croesi ardal Betws yn Rhos a Llanelian yn Rhos a’r gobaith fyddai i gynwys rhai o’r llwybrau a’r hen ffyrdd yma yn y ‘Llwybyr Natur’.
Byddai angen i’r llwybyr fod yn addas i ddefnyddwyr o bob oed a gallu. Bydd angen cymorth i ddechrau y broject yma gan unrhyw un sydd a gwybodaeth dda o hanes yr ardal ynghyd a dealldwriaeth o fywyd gwyllt ac yn gyfarwydd a’r llwybrau cerded cyhoeddus y fro.
Os oes unrhyw un a diddordeb yn y broject yma a fuasech mor garedig a chysylltu gyda Clerc y Cyngor Cymuned.
Mae'r ardal a'i chynrychiolir gan Cyngor Cymuned Betws-yn-Rhos a Llanelian-yn-Rhos yn ymestun o Drofarth yn y Gorllewin bron i Abergele yn y Dwyrain, o Dopiau Bae Colwyn yn y Gogledd i Moelfre Uchaf yn y De. Ar wahan i Betws a Llaneilian mae yma bentrefi Dawn a Dolwen hefyd.
Mae'r ardal heddiw o dan rheolaeth Cyngor Bwrdeistref Conwy.
Ganed Thomas Gwynn Jones, (neu T. Gwynn Jones), y llenor enwog, ym Metws, a dreuliodd ei ieuenctid yn Llanelian.
Cliciwch ar y map (uchod) i weld Betws a Llanelian ar fap mwy.