Betws a Llanelian yn Rhos

 

Mae Grantiau Perthyn yn ôl ac ar agor!

Rydym bellach yn derbyn ceisiadau gan grwpiau cymunedol ledled Cymru am gyllid grantiau Perthyn i helpu gyda ffioedd cychwynnol yn ystod y cyfnod cynnar o ddatblygu mentrau cymdeithasol, cyd-weithredol, tai dan arweiniad y gymuned neu ymddiriedolaethau tir cymunedol trwy’r iaith Gymraeg.

Hyd at £5,000* ar gael fesul grŵp (cyllid refeniw)

Ar agor: Nawr!

Cau: 10.00 yh dydd Sadwrn 31 Ionawr 2026 (cyhoeddir y canlyniadau 2 wythnos ar ôl derbyn cais)

Grwpiau cymunedol heb eu cofrestru neu sydd newydd cofrestru (wedi cofrestru o fewn y 12 mis diwethaf ers Ionawr 2025)

Nid yw grwpiau sydd wedi derbyn grantiau yn y gorffennol (trwy Perthyn) yn gymwys i ail-ymgeisio

Cyllid refeniw i'w wario a gwaith i'w gwblhau erbyn 31/03/2026

Ar agor i grwpiau cymunedol ledled Cymru

 Prif ffocws y grant hwn yw'r iaith Gymraeg, bydd angen i ymgeiswyr ddangos bod y Gymraeg yn ganolog i'r fenter a'r ddarpariaeth yn y dyfodol. (Pwyntiau ychwanegol i geisiadau sy'n dangos ardaloedd ail gartrefi a heriau)

Am unrhyw wybodaeth neu ymholiadau pellach cysylltwch â:

perthyn@cwmpas.coop

Chloe Howell – chloe.howell@cwmpas.coop

Samantha Edwards – samantha.edwards@cwmpas.coop

Paul Roberts – paul.roberts@cwmpas.coop

Cris Tomos – cris.tomos@planed.org.uk

Mae dogfennaeth ceisiadu wedi'u hatodi ac ar gael ar wefan Perthyn.

 

Rhybydd Cyhoeddus - Sedd Gwag

Gweler manylion yma

 

Ceisiadau Am Grantiau

Nodwch, os gwelwch yn dda fod Cyngor Cymuned Betws yn Rhos a Llanelian yn Rhos yn datgan ei bod yn barod i dderbyn ceisiadau am grantiau gan unrhyw sefydliad neu gymdeithas ar gyfer y flwyddyn 2026 – 2027

Bydd yn ofynnol i unrhyw gais ddisgrifio yn fanwl y rheswm ac amcangyfrif o’r swm mewn ffurf ysgrifenedig ynghyd a mantolen banc ddiweddaraf.

Gofynnir i bob cais fod gyda’r cyngor cyn diwedd Rhagfyr 2025 drwy yrru lythyr i’r isod:

Clerc Cyngor Cymuned Betws yn Rhos a Llanelian yn Rhos
2, Lon Hafan, Abergele,Conwy LL22 8QJ

Neu cysylltwch drwy e-bost yma.

 

Arolwg Sgwrs y Sir

Hoffem glywed gennych chi. Mae eich llais ynbwysig wrth siapio dyfodol Conwy.

Darllenwch manylion yr arolwg.

 

Astudiaeth Troseddau Cefn Gwlad.

Cliciwch ar y postar i weld yn fwy. Sganniwch neu tapiwch ar y côd QR isod i gymryd rhan.

 

Prosiect Cysylltedd Digidol Gwledig Gogledd Cymru

Ydych chi, neu ydych chi'n gwybod am rywun sy'n cael trafferth gyda chysylltedd rhyngrwyd cartref neu yn y gwaith yng Ngogledd Cymru?

Cliciwch yma am fwy o fanylion.

 

SGYRSIAU IECHYD LLEOL

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus ar hyd a lled Gogledd Cymru drost y flwyddyn i ddod ac erfynnaf arnoch fel cymunedau i gymeryd y cyfle i gyfarthrebu gyda swyddogion ac Aelodau Bwrdd Betsi gyda'ch pryderon.

Mae cyfarfodydd pellach i gael eu cynnal ac gellwch cael manylion pellach gan holi gwefan Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

 

 

 

Cylchlythyr Abergele Community Action

(cliciwch ar y delwedd i weld y dogfen)

 

 

 

Y Hwb

Bydd y Cyngor lleol felly yn darparu Canolfan Glyd yn y Pafiliwn Chwaraeon yn Betws yn Rhos

o 9:00 y bore hyd 12:00.

bob Dydd Mawrth.

Croeso i bawb ddod yma am baned a sgwrs.

 

Llwybyr Natur

Mae Cyngor Cymuned Betws yn Rhos a Llanelian yn Rhos yn cysidro darparu Llwybyr Natur yn y fro i ddenu ac ail gynau diddordeb ym mywyd natur cefn gwlad Cymru.

Mae project ar y gweill ar ran Senedd Cymru gan Lleoedd LLeol ar gyfer Natur i chwalu rhwystrau sy’n eithrio cymunedau difreintiedug rhag ymwneud a byd natur. Mae amryw o lwybrau cyhoeddus a hen ffyrdd fel ‘Ffordd y Porthmyn’ a’r hen Ffordd Rufeinig yn croesi ardal Betws yn Rhos a Llanelian yn Rhos a’r gobaith fyddai i gynwys rhai o’r llwybrau a’r hen ffyrdd yma yn y ‘Llwybyr Natur’.

Byddai angen i’r llwybyr fod yn addas i ddefnyddwyr o bob oed a gallu. Bydd angen cymorth i ddechrau y broject yma gan unrhyw un sydd a gwybodaeth dda o hanes yr ardal ynghyd a dealldwriaeth o fywyd gwyllt ac yn gyfarwydd a’r llwybrau cerded cyhoeddus y fro.

Os oes unrhyw un a diddordeb yn y broject yma a fuasech mor garedig a chysylltu gyda Clerc y Cyngor Cymuned.

 

Heddlu Dyfed-Powys

Twyll Cludo

Cliciwch yma i weld y postar

 

Rhybydd yr Heddlu i Berchenogion Carafanau a Motorhome

Gwelwch neges gan Heddlu Gogledd Cymru yma

 
 

Mae'r ardal a'i chynrychiolir gan Cyngor Cymuned Betws-yn-Rhos a Llanelian-yn-Rhos yn ymestun o Drofarth yn y Gorllewin bron i Abergele yn y Dwyrain, o Dopiau Bae Colwyn yn y Gogledd i Moelfre Uchaf yn y De. Ar wahan i Betws a Llaneilian mae yma bentrefi Dawn a Dolwen hefyd.

Mae'r ardal heddiw o dan rheolaeth Cyngor Bwrdeistref Conwy.

Ganed Thomas Gwynn Jones, (neu T. Gwynn Jones), y llenor enwog, ym Metws, a dreuliodd ei ieuenctid yn Llanelian.

  

Cliciwch ar y map (uchod) i weld Betws a Llanelian ar fap mwy.