SGYRSIAU IECHYD LLEOL 2024

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus ar hyd a lled Gogledd Cymru drost y flwyddyn i ddod ac erfynnaf arnoch fel cymunedau i gymeryd y cyfle i gyfarthrebu gyda swyddogion ac Aelodau Bwrdd Betsi gyda'ch pryderon.

Mae cyfarfodydd pellach i gael eu cynnal ac gellwch cael manylion pellach gan holi gwefan Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

 

 

 

Y Hwb

Bydd y Cyngor lleol felly yn darparu Canolfan Glyd yn y Pafiliwn Chwaraeon yn Betws yn Rhos

o 9:00 y bore hyd 12:00.

bob Dydd Mawrth.

Croeso i bawb ddod yma am baned a sgwrs.

 

Llwybyr Natur

Mae Cyngor Cymuned Betws yn Rhos a Llanelian yn Rhos yn cysidro darparu Llwybyr Natur yn y fro i ddenu ac ail gynau diddordeb ym mywyd natur cefn gwlad Cymru.

Mae project ar y gweill ar ran Senedd Cymru gan Lleoedd LLeol ar gyfer Natur i chwalu rhwystrau sy’n eithrio cymunedau difreintiedug rhag ymwneud a byd natur. Mae amryw o lwybrau cyhoeddus a hen ffyrdd fel ‘Ffordd y Porthmyn’ a’r hen Ffordd Rufeinig yn croesi ardal Betws yn Rhos a Llanelian yn Rhos a’r gobaith fyddai i gynwys rhai o’r llwybrau a’r hen ffyrdd yma yn y ‘Llwybyr Natur’.

Byddai angen i’r llwybyr fod yn addas i ddefnyddwyr o bob oed a gallu. Bydd angen cymorth i ddechrau y broject yma gan unrhyw un sydd a gwybodaeth dda o hanes yr ardal ynghyd a dealldwriaeth o fywyd gwyllt ac yn gyfarwydd a’r llwybrau cerded cyhoeddus y fro.

Os oes unrhyw un a diddordeb yn y broject yma a fuasech mor garedig a chysylltu gyda Clerc y Cyngor Cymuned.

 

Heddlu Dyfed-Powys

Twyll Cludo

Cliciwch yma i weld y postar

 

Rhybydd yr Heddlu i Berchenogion Carafanau a Motorhome

Gwelwch neges gan Heddlu Gogledd Cymru yma

 
 

Mae'r ardal a'i chynrychiolir gan Cyngor Cymuned Betws-yn-Rhos a Llanelian-yn-Rhos yn ymestun o Drofarth yn y Gorllewin bron i Abergele yn y Dwyrain, o Dopiau Bae Colwyn yn y Gogledd i Moelfre Uchaf yn y De. Ar wahan i Betws a Llaneilian mae yma bentrefi Dawn a Dolwen hefyd.

Mae'r ardal heddiw o dan rheolaeth Cyngor Bwrdeistref Conwy.

Ganed Thomas Gwynn Jones, (neu T. Gwynn Jones), y llenor enwog, ym Metws, a dreuliodd ei ieuenctid yn Llanelian.

  

Cliciwch ar y map (uchod) i weld Betws a Llanelian ar fap mwy.